Rhif y ddeiseb: P-06-1235

Teitl y ddeiseb: Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Testun y ddeiseb: Mae angen adolygiad brys o’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau adsefydlu cleifion mewnol yng ngogledd Cymru ar gyfer pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd, ac nid oes ond pedwar gwely cleifion mewnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben’.

Mae’n amser ar gyfer newid.

Yn 2018, lansiodd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Anafiadau i’r Ymennydd yr adroddiad a ganlyn https://cdn.ymaws.com/ukabif.org.uk/resource/resmgr/campaign/appg-abi_report_time-for-cha.pdf

Fodd bynnag, roedd angen adroddiad cyfatebol a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac yn ystyried ei demograffeg, ei daearyddiaeth a'i gwasanaethau.

Oherwydd yr angen hwn, yn 2021 cyhoeddwyd yr adroddiad “Acquired Brain Injury and Neurorehabilitation in Wales: Time for Change”
https://ukabif.org.uk/page/TFCWales

Gwneir argymhellion allweddol mewn pum maes - Niwroadsefydlu, Addysg, Cyfiawnder Troseddol, Anafiadau Trawmatig i'r Ymennydd sy'n Gysylltiedig â Chwaraeon, a'r System Budd-daliadau Lles - ac mae pob un yn tynnu sylw at yr angen dybryd i adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Mae cael niwed i’r ymennydd yn epidemig cudd sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, ac mae rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben'.

Mae’n amser ar gyfer newid.

 


1.        Cefndir

Mae anaf i’r ymennydd yn cynnwys unrhyw sefyllfa sy’n arwain at anaf i’r ymennydd ar ôl i rywun gael ei eni, a gall gynnwys anaf ar ôl syrthio, oherwydd damwain ffordd, tiwmor neu strôc. Yn ôl yr adroddiad 'Amser am Newid' aeth 84,374 o bobl i’r ysbyty yng Nghymru oherwydd anaf i’r ymennydd rhwng 2012 a 17; ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gwelwyd y nifer fwyaf, sef 20,187. Nid yw cyfanswm yr unigolion sy'n byw gydag effeithiau anaf i’r ymennydd yng Nghymru yn hysbys.

1.1.            Adroddiad Amser am Newid    

Yn 2018, lansiodd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Anafiadau i’r Ymennydd a Fforwm Anafiadau i’r Ymennydd  y Deyrnas Unedig adroddiad, sef ‘Acquired Brain Injury and Neurorehabilitation – Time for Change’ i godi ymwybyddiaeth o anafiadau i’r ymennydd ac i geisio gwella’r cymorth sydd ar gael.

Yn 2021, cafodd yr adroddiad ei ddiweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa yng Nghymru, a nodwyd y canlynol:

§    Roedd yn amserol ystyried gwasanaethau niwroadsefydlu o gofio bod Rhwydwaith Trawma Mawr wedi’i sefydlu ar gyfer De Cymru a Phowys;

§    Nid oes dim gwasanaethau adsefydlu cleifion mewnol i’w cael yng Ngogledd Cymru, ac

§    Mae angen darparu’r cymorth briodol i’r rhai sydd wedi cael anaf i’r ymennydd er mwyn creu Cymru gynaliadwy ac iach. 

Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion gan gynnwys yr angen i gynnal adolygiad o’r nifer sy’n cael anaf i’r ymennydd, ac i benderfynu a yw’r gwasanaethau niwroadsefydlu sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru yn ddigonol ac yn 'addas i'r diben'.

1.2.          Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU

Ar 2 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymrwymiad i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol ar anafiadau i’r ymennydd. Caiff y gwaith ei oruchwylio gan Fwrdd y Rhaglen a’r Gweinidog Gofal ac Iechyd Meddwl fydd yn cadeirio’r Bwrdd ar y cyd â Chris Bryant AS, a sefydlir grŵp llywio ochr yn ochr â’r Bwrdd.

Mewn gohebiaeth at y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2022, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod y strategaeth yn ystyried y ffaith bod gwasanaethau iechyd wedi’u datganoli i Gymru, a hefyd yn ystyried fframwaith clinigol cenedlaethol Cymru a’r datganiadau ansawdd sy’n cael eu datblygu. Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar Fwrdd y Rhaglen a’r Grŵp Llywio.

2.     Gwasanaethau niwroadsefydlu yng Nghymru

Mae niwroadsefydlu yn broses o asesu, trin a rheoli, a hynny gan dîm amlddisgyblaeth arbenigol, gan gynnwys Ymgynghorwyr Adsefydlu, Nyrsys Adsefydlu, Niwroseicolegwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Ffisiotherapyddion, a Therapyddion Galwedigaethol.

2.1.          Gwasanaethau niwroadsefydllu yn Ne Cymru

Sefydlwyd Rhwydweithiau Trawma Mawr yn Lloegr yn 2010 ac mae’r rhain yn cynnig llwybrau gofal cydgysylltiedig i gleifion trawma mawr. Yng Nghymru, mae Tîm Amlddisgyblaeth yn cael ei sefydlu ar gyfer De a Gorllewin Cymru a De Powys. Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn Ganolfan Trawma Mawr ac mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn Uned Drawma sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol. Bydd pump o Unedau Trawma ychwanegol a chyfleusterau trawma mewn dau leoliad gwledig. Mae Ysbyty Athrofaol Llandochau yn cynnig gwasanaethau niwroadsefydlu Lefel 1 sy'n rhoi cymorth arbenigol i'r rhai ag anghenion adsefydlu cymhleth. Mae hyn yn cynnwys uned adsefydlu sydd â 22 gwely niwroadsefydlu a 26 gwely ar gyfer anafiadau asgwrn cefn. Mae gan Ysbyty Castell-nedd Port Talbot 13 gwely ar gyfer achosion niwrolegol cymhleth.

Wrth gyfeirio at y tîm amlasiantaeth arbenigol a fydd yn cael ei sefydlu yn Ne Cymru, tynnodd y Gweinidog sylw at y buddsoddiad mewn gwasanaethau adsefydlu ychwanegol ar gyfer cleifion ag anafiadau trawma mawr gan gynnwys: sesiynau ychwanegol gydag ymgynghorydd adsefydlu; cyflwyno ymarferwyr adsefydlu trawma mawr; a rhoi'r presgripsiwn adsefydlu ar waith.

2.2.        Gwasanaethau niwroadsefydllu yng Ngogledd Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o dîm amlddisgyblaeth arbenigol Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru ac maent yn gallu manteisio ar arbenigedd y tîm amlddisgyblaeth yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke. Mae trigolion gogledd Powys yn cael gwasanaethau gan dîm amlddisgyblaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr, a thîm amlddisgyblaeth Birmingham, yr Ardal Ddu, Henffordd a Chaerwrangon. Esboniodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr holl wasanaethau’n cael eu prynu’n ôl y galw drwy Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol.

Mae gan Wasanaeth Anafiadau i’r Ymennydd Gogledd Cymru dîm clinigol amlddisgyblaeth yn y gymuned sy'n rhoi cymorth adsefydlu i gleifion allanol.

Mae plant sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaethau niwroadsefydlu pediatrig arbenigol i gleifion mewnol yn cael eu hatgyfeirio at Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl (Gogledd Cymru) neu Ysbyty Plant Arch Noa Cymru yng Nghaerdydd. Yn Ysbyty Plant Arch Noa, mae uned niwroadsefydlu pediatrig arbenigol sydd â lle i bedwar plentyn neu berson ifanc sydd wedi cael anaf i’r ymennydd.

Dywedodd y Gweinidog fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â’r prinder gwasanaethau Niwrsadsefydlu yng Ngogledd Cymru ers 2019/20. Cyfeiriodd y Gweinidog at dîm prosiect Niwro’r Bwrdd sydd, mewn cydweithrediad â chlinigwyr a defnyddwyr gwasanaeth, wedi bod yn:

working to understand and define what the delivery of a level 2 neuro rehabilitation service would involve. This included identifying potential capacity and demand, relevant service standards, resource requirements and how the current service pathway operates.

Cyflwynwyd adroddiad ar y canfyddiadau i’r Tîm Gweithredol ym mis Ebrill 2021 ac, yn dilyn oedi oherwydd pwysau o fewn y bwrdd iechyd, cadarnhaodd y Gweinidog fod y Tîm wedi cael cymeradwyaeth ym mis Medi 2021 i ddatblygu opsiynau posibl ymhellach a chynnal arfarniad cyn argymell opsiwn.   Mae’r gwaith yn mynd rhagddo a chaiff ei gwblhau erbyn yr hydref. 

Awgrymodd y Gweinidog y gallai deisebwyr gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth newydd hwn ac y gallent roi eu manylion cyswllt.

3.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru 

Mewn gohebiaeth at y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2022, tynnodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at  Gynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol  2017 sy’n cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pawb yng Nghymru sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol. Caiff y Cynllun ei oruchwylio gan y Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol sydd, ers y ddwy flynedd ddiwethaf wedi blaenoriaethu niwroadsefydlu ar gyfer pobl ag anaf i’r ymennydd a chyflyrau niwrolegol eraill. Dyrennir £900,000 bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau niwroadsefydlu. Mae’r Cynllun wedi’i ymestyn tan  fis Mawrth 2022.

Eglurodd y Gweinidog fod y Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol  yn gweithio gyda'r tîm Gwerth mewn Iechyd i ddatblygu dangosfwrdd data ar gyfer anafiadau i’r ymennydd a fydd yn galluogi’r Grŵp, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i ddeall y galw am wasanaethau a’r effaith ar bobl sy’n byw gydag anaf i’r ymennydd.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ym mis Mawrth 2021 ac mae’n egluro sut y dylid darparu gwasanaethau clinigol, gan gynnwys cyflyrau niwrolegol, dros y degawd nesaf a’r modd y gall Llywodraeth Cymru wneud rhagor i helpu i gynllunio systemau a gwella ansawdd. Dywedodd y Gweinidog:

NCF will be supported by a range of quality statements that consist of high-level policy intentions that set out the standards and outcomes expected of clinical services. The NCIG is currently working on a specific quality statement for neurological conditions.

Cyhoeddwyd Fframwaith adsefydlu cenedlaethol <https://llyw.cymru/fframwaith-adsefydlu-gwasanaethau-iechyd-chymdeithasol-2020-i-2021-html> a chanllawiau ar gyfer poblogaethau penodol ym mis Mai 2020. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r rhain yn helpu gwasanaethau i ddeall yn well y galw cynyddol am wasanaethau adsefydlu, ail-alluogi ac adfer ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a’u bod yn cael eu defnyddio gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i gynllunio gwasanaethau adsefydlu sy’n ymateb i anghenion eu poblogaethau.

Wrth ymateb i'r deisebydd, dywedodd y Gweinidog:

I expect to see transformation to deliver increased and more consistent provision of rehabilitation, reablement and recovery services, including neuro-rehabilitation to ensure people can maximise their recovery from ill health as close to home as possible and live healthier, happier, longer, independent lives.

4.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Mewn ymateb i bryderon nad oedd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol wedi arwain at y newidiadau a ddisgwylid, penderfynodd Grŵp Trawsbleidiol y Bumed Senedd ar Gyflyrau Niwrolegol gynnal ymchwiliad yn 2019 a oedd yn argymell cymryd camau i wella’r modd roedd y Cynllun yn cael ei roi ar waith ac i gyflwyno dull hirdymor o godi safon y cymorth a gynigir i bobl â chyflyrau niwrolegol. Fodd bynnag, ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru  yr holl argymhellion yn yr adroddiad. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.